2017 Rhif (Cy. )

CAFFAEL TIR, CYMRU

Rheoliadau Prynu Tir yn Orfodol (Datganiadau Breinio) (Cymru) 2017

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi ffurfiau at ddibenion Deddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981 (p. 66) (“Deddf 1981”) a deuant i rym ar 6 Ebrill 2017. Maent yn gymwys i brynu tir yn orfodol yng Nghymru.

Mae’r ffurfiau a ragnodir yn adlewyrchu’r newidiadau i’r weithdrefn datganiad breinio cyffredinol a wnaed gan Ran 7 o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 (p. 22).

Mae rheoliad 3(1)(a) yn darparu mai ffurf datganiad breinio cyffredinol, at ddibenion adran 4(1) o Ddeddf 1981, yw Ffurflen 1 yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn (neu ffurflen y mae ei heffaith yn sylweddol debyg iddi).

Mae rheoliad 3(1)(b) yn darparu mai ffurf hysbysiad sy’n pennu’r tir ac yn datgan effaith datganiad breinio cyffredinol, at ddibenion adran 6(1) o Ddeddf 1981, yw Ffurflen 2 yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn (neu ffurflen y mae ei heffaith yn sylweddol debyg iddi).

Mae rheoliad 4 yn dirymu gydag arbediad Reoliadau Prynu Tir yn Orfodol (Datganiadau Breinio) 1990 (O.S. 1990/497) yng Nghymru.

Ni luniwyd asesiad effaith ar gyfer yr offeryn hwn, gan na ragwelir unrhyw effaith ar y sector preifat na’r sector gwirfoddol.


2017 Rhif (Cy. )

CAFFAEL TIR, CYMRU

Rheoliadau Prynu Tir yn Orfodol (Datganiadau Breinio) (Cymru) 2017

Gwnaed                                 8 Mawrth 2017

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       14 Mawrth 2017

Yn dod i rym                             6 Ebrill 2017

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 2([1]), 4 a 6 o Ddeddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981([2]), ac sy’n arferadwy bellach ganddynt hwy([3]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Prynu Tir yn Orfodol (Datganiadau Breinio) (Cymru) 2017, a deuant i rym ar 6 Ebrill 2017.

(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran prynu tir yn orfodol yng Nghymru.

Dehongli

2.(1)(1) Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “deddfiad arbennig” (“special enactment”) yw—

(a)     Deddf leol neu breifat sy’n awdurdodi prynu tir yn orfodol a nodwyd yn benodol yn y Ddeddf honno, neu

(b)     darpariaeth sydd—

                           (i)    wedi ei chynnwys mewn Deddf ac eithrio Deddf leol neu breifat, a

                         (ii)    yn awdurdodi prynu tir yn orfodol a nodwyd yn benodol yn y Ddeddf honno;

 

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981; ac

ystyr “gorchymyn perthnasol” (“relevant order”) yw gorchymyn sy’n darparu bod y Ddeddf i fod yn gymwys i brynu tir yn orfodol y mae’n ei awdurdodi fel petai’r gorchymyn yn orchymyn prynu gorfodol.

(2) At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae pryniant gorfodol wedi ei awdurdodi—

(a)     gan orchymyn prynu gorfodol, ar y diwrnod y caiff y gorchymyn ei gadarnhau gan Weinidog neu Weinidogion Cymru neu awdurdod arall, neu ei wneud gan Weinidog neu Weinidogion Cymru;

(b)     gan orchymyn o dan adran 1 neu 3 o Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992([4]), ar y diwrnod y mae’r Ysgrifennydd Gwladol neu Weinidogion Cymru yn penderfynu gwneud y gorchymyn o dan adran 13(1) o’r Ddeddf honno;

(c)     gan orchymyn adolygu harbwr, gorchymyn grymuso harbwr neu orchymyn cau harbwr o dan Ddeddf Harbyrau 1964([5]), ar y diwrnod y gwneir y gorchymyn gan y Gweinidog
priodol(
[6]) neu Weinidogion Cymru neu berson sydd wedi ei ddynodi mewn gorchymyn a wnaed o dan adran 42A([7]) o’r Ddeddf honno;

(d)     gan unrhyw orchymyn perthnasol arall, ar y diwrnod y gwneir y gorchymyn gan Weinidog neu Weinidogion Cymru; neu

(e)     gan ddeddfiad arbennig([8]), ar y diwrnod y deddfir y deddfiad arbennig.

Ffurfiau rhagnodedig mewn cysylltiad â datganiadau breinio cyffredinol

3.(1)(1) Mewn perthynas â phrynu tir yn orfodol a awdurdodir ar neu ar ôl 6 Ebrill 2017 —

(a)     at ddibenion adran 4(1) o’r Ddeddf, ffurf ragnodedig datganiad breinio cyffredinol yw Ffurflen 1;

(b)     at ddibenion adran 6(1) o’r Ddeddf, ffurf ragnodedig hysbysiad sy’n pennu’r tir ac sy’n datgan effaith datganiad breinio cyffredinol yw Ffurflen 2.

(2) Mae’r cyfeiriadau yn y rheoliad hwn at ffurflen â rhif yn gyfeiriadau at y ffurflen sy’n dwyn y rhif hwnnw yn yr Atodlen neu at ffurflen y mae ei heffaith yn sylweddol debyg iddi.

Dirymu ac arbed

4.(1)(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae Rheoliadau Prynu Tir yn Orfodol (Datganiadau Breinio) 1990([9]) wedi eu dirymu o ran Cymru.

(2) Mae’r Rheoliadau a grybwyllwyd ym mharagraff (1) yn parhau i gael effaith mewn perthynas â phrynu tir yn orfodol a awdurdodir cyn ^ Ebrill 2017.

 

Lesley Griffiths

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

8 Mawrth 2017


ATODLEN 1

                                                 Ffurflen 1                      Rheoliad 3(1)(a)

Ffurflen datganiad breinio cyffredinol

 

Gwneir y DATGANIAD BREINIO CYFFREDINOL hwn ar y ... .. .. .. .. .. .. .. .. dydd o .. .. .. .. .. .. .. .. .. 20.. .. .. .. .. .. .. .. .. gan .. .. .. .. .. .. .. .. .. (a) (“yr Awdurdod”).

YN GYMAINT Â BOD:

(1) Ar .. .. .. .. .. .. .. .. .. 20.. .. .. .. .. .. .. .. .. gorchymyn â’r teitl .. .. .. .. .. .. .. .. .. wedi’i (wneud) (gadarnhau) gan .. .. .. .. .. .. .. .. .. (b) o dan y pwerau a drosglwyddwyd iddynt o dan Ddeddf ................(c) yn awdurdodi’r Awdurdod i gaffael y tir a bennwyd yn yr Atodlen at hyn.

(2) Cyhoeddwyd hysbysiad [cadarnhau] [gwneud] y gorchymyn gyntaf yn unol ag [adran 15 o Ddeddf Caffael Tir 1981] [paragraff 6 o Atodlen 1 i Ddeddf Caffael Tir 1981] (d) ar .. .. .. .. .. .. .. .. .. 20..

(3) Roedd yr hysbysiad hwnnw’n cynnwys y datganiad a’r ffurflen a ragnodwyd o dan [Adran 15(4)(e) ac (f) o Ddeddf Caffael Tir 1981] [paragraff 6(4)(e) ac (f) o Atodlen 1 i Ddeddf Caffael Tir 1981] (e)

 

 

YN AWR TYSTIA’R WEITHRED HON, wrth weithredu’r pwerau a drosglwyddwyd iddynt drwy adran 4 o Ddeddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981(“y Ddeddf”), fod yr Awdurdod drwy hyn yn datgan --

(1.) Y bydd y tir a ddisgrifir yn (Rhan 1 o(f) yr Atodlen at hyn (sef [yr holl dir] [rhan o’r tir] yr awdurdodwyd ei gaffael drwy’r gorchymyn) ac yn fwy penodol sydd wedi’i farcio ar y cynllun a atodwyd at hyn ynghyd â’r hawl i fynd ar y tir a’i feddiannu yn cael ei freinio i’r Awdurdod o ddiwedd y cyfnod o [rhowch gyfnod o 3 mis neu hwy] o’r dyddiad pan gwblheir cyflwyno’r hysbysiadau sy’n ofynnol o dan adran 6 o’r Ddeddf.

(2.) At ddibenion adran 2(2) o’r Ddeddf, y cyfnod penodedig [yng nghyswllt y tir sydd wedi’i gynnwys yn y datganiad hwn yw.. .. .. .. .. .. .. .. .. o flynyddoedd a misoedd] [yng nghyswllt pob ardal o dir a bennir yng ngholofn 1 o Ran 2 o’r Atodlen at hyn yw hwnnw sy’n cael ei ddatgan ar gyfer yr ardal honno yng ngholofn 2].

 

 

ATODLEN

(g) . . .

 

NODIADAU AM DDEFNYDDIO FFURFLEN 1

 

(a) Rhowch enw’r awdurdod caffael.

(b) Rhowch enw’r awdurdod cadarnhau neu, os yw’r gorchymyn wedi’i wneud gan Weinidog, enw’r Gweinidog hwnnw.

(c) Rhowch deitl y Ddeddf sy’n awdurdodi’r prynu gorfodol.

(d) Os cyhoeddwyd yr hysbysiad o dan weithdrefn a ragnodir o dan ryw ddarpariaeth arall, cyfeiriwch yn hytrach at y ddarpariaeth honno.

(e) Os cyhoeddwyd yr hysbysiad o dan weithdrefn a ragnodir o dan ddarpariaeth arall (h.y. nid o dan Ddeddf Caffael Tir 1981,) cyfeiriwch at y ddarpariaeth a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i’r hysbysiad gynnwys datganiad rhagnodedig am effaith Rhannau 2 a 3 Deddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981 a ffurflen ragnodedig ar gyfer rhoi gwybodaeth i’r awdurdod sy’n caffael.

(f) Dylid rhannu’r Atodlen yn Rhan 1 a Rhan 2 os bydd gofyn cael Rhan 2 at ddibenion ymadrodd olaf Cymal 2 o’r datganiad. Ceir hepgor Cymal 2, dan unrhyw amgylchiad, os nad oes tenantiaeth hir sydd ar fin dod i ben. Gweler adran 2(2) o Ddeddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981 ynglŷn â hyn.

(g) Dylid gwneud y datganiad o dan sêl, a’i ddilysu a’i ddyddio’n briodol.

 

 

                                                 Ffurflen 2                     Reheoliad 3(1)(b)

 

Ffurflen Hysbysiad yn pennu’r tir ac yn datgan effaith datganiad

breinio cyffredinol

 

Gorchymyn Prynu Gorfodol 20 .. .. .. .. .. .. .. .. ..

I: .. .. .. .. .. .. .. .. ..

o: .. .. .. .. .. .. .. .. ..

RHODDIR HYSBYSIAD DRWY HYN bod y ... .. .. .. .. .. .. .. .. (“ y.. .. .. .. .. .. .. .. .. “) (a) ar .. .. .. .. .. .. .. .. .. 20.. .. .. .. .. .. .. .. .. wedi gweithredu datganiad breinio cyffredinol o dan adran 4 o Ddeddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981 (“y Ddeddf”) yn breinio’r tir sy’n cael ei ddisgrifio yn yr Atodlen i’r hysbysiad hwn (“y tir”) ynddynt hwy eu hunain o ddiwedd y cyfnod o [ rhowch gyfnod o 3 mis neu hwy] o’r dyddiad pan gwblheir cyflwyno’r hysbysiadau sy’n ofynnol o dan adran 6 o’r Ddeddf.

Bydd y.. .. .. .. .. .. .. .. .. (a) yn rhoi gwybod ichi maes o law ar ba ddyddiad y cwblhawyd cyflwyno’r hysbysiadau.

Bydd effaith y datganiad breinio cyffredinol fel a ganlyn:--

Ar y diwrnod cyntaf ar ôl diwedd y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff cyntaf yr hysbysiad hwn (“y dyddiad breinio”) bydd y tir, ynghyd â’r hawl i fynd arno a’i feddiannu, wedi’i freinio yn y .. .. .. .. .. .. .. .. .. (a).

Hefyd, ar y diwrnod breinio, bydd y Deddfau sy’n darparu ar gyfer iawndal yn berthnasol fel pe bai, ar y diwrnod pan roddwyd y datganiad breinio cyffredinol ar waith (sef, ... .. .. .. .. .. .. .. .. 20.. .. .. .. .. .. .. .. .. ), hysbysiad i drafod telerau wedi’i gyflwyno i bob person y gallai’r                (a) fod wedi cyflwyno hysbysiad o’r fath iddo, o dan adran 5 o Ddeddf Prynu Gorfodol 1965, (ac eithrio unrhyw berson sydd â’r hawl i “fân denantiaeth” neu “denantiaeth hir” sydd ar fin dod i ben. Diffinnir yr ymadroddion hyn yn Atodiad A i’r hysbysiad hwn).

Os yw’r tir yn cynnwys unrhyw dir lle mae mân denantiaeth neu denantiaeth hir sydd ar fin dod i ben, ni fydd modd rhoi’r hawl mynediad ar waith gyda golwg ar y tir hwnnw, ac eithrio, ar ôl cyflwyno hysbysiad i drafod telerau yng nghyswllt y denantiaeth honno, bod... .. .. .. .. .. .. .. .. (a) ar ôl cyflwyno i bob meddiannydd ar unrhyw dir lle mae’r denantiaeth yn bodoli, hysbysiad yn dweud, ar ddiwedd cyfnod penodedig (o leiaf 3 mis ar ôl dyddiad cyflwyno’r hysbysiad), eu bod yn bwriadu mynd ar y tir sydd wedi’i bennu yn yr hysbysiad a’i feddiannu, a bod y cyfnod hwnnw wedi dod i ben: yna bydd breinio’r tir yn ddarostyngedig i’r denantiaeth nes i’r cyfnod hwnnw ddod i ben, neu nes i’r denantiaeth ddod i ben, pa un bynnag sy’n digwydd gyntaf.

Mae Atodlenni 1A ac 1 i’r Ddeddf yn cynnwys darpariaethau atodol ynglŷn â’r datganiadau breinio cyffredinol. Os cyflwynir gwrth-hysbysiad o dan baragraff 2 o Atodlen A1 o fewn y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff cyntaf yr hysbysiad hwn, bydd y dyddiad breinio ar gyfer y tir y cyfeirir ato yn y gwrth-hysbysiad yn cael ei bennu’n unol a’r Atodlen honno. Mae darpariaethau Atodlenni A ac 1 wedi’u nodi yn Atodiad B i’r hysbysiad hwn.

Mae copi o’r datganiad breinio cyffredinol y mae’r hysbysiad hwn yn cyfeirio ato ac o’r cynllun sydd wedi’u hatodi wrth y datganiad ar gael i’w harchwilio yn... .. .. .. .. .. .. .. .. (b) ac mae modd eu gweld ar bob awr resymol.

 

 

ATODLEN

[Disgrifiad o’r tir wedi’i dynnu o’r Atodlen i’r datganiad breinio cyffredinol]

Atodiad A

[Nodwch yma’r diffiniadau o “fan denantiaeth” a “thenantiaeth hir sydd ar fin dod i ben” yn adran 2(1) a (2) o’r Ddeddf].

Atodiad B

[Rhowch Atodlenni 1A ac 1 i’r Ddeddf yma]

 

[Dyddiad a llofnod]

 

NODIADAU AM DDEFNYDDIO FFURFLEN 2

 

(a) Rhowch enw’r awdurdod a’i ddiffinio drwy ddefnyddio term priodol. Yna, defnyddiwch y diffiniad hwnnw pa bryd bynnag y bydd “(a)” yn ymddangos yn y testun.

(b) Rhowch gyfeiriad y swyddfa lle mae modd archwilio’r dogfennau.

 



([1])  Gweler y diffiniad o “prescribed” yn is-adran (1).

([2])   1981 p. 66. Diwygiwyd adran 4(1) gan adran 184 o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 (p. 22). Diwygiwyd adran 6(1) gan adran 183 o’r Ddeddf honno, a pharagraffau 4 a 7 o Atodlen 15 iddi.

([3])   Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), gweler yr eitem yn Atodlen 1 ar gyfer Deddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

([4])   1992 p. 42. Gall gorchymyn a wneir o dan adran 1 neu 3 o Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992 awdurdodi caffael tir yn orfodol, gweler adran 5 o’r Ddeddf honno, a pharagraff 3 o Atodlen 1 iddi. Trosglwyddwyd swyddogaethau gwneud gorchmynion o dan adrannau 1 a 3 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac eithrio pan fyddai unrhyw orchymyn o’r fath yn cael effaith yng Nghymru a Lloegr, gweler erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, a’r eitem ar gyfer Deddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992 yn Atodlen 1 iddi. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

([5])   1964 p. 40. Gall gorchymyn o dan Ddeddf Harbyrau 1964 awdurdodi caffael tir yn orfodol, gweler adrannau 14 ac 16 o’r Ddeddf honno.

([6])   I gael y diffiniad o “the appropriate Minister” gweler adrannau 14(7) a 15(3) o Ddeddf Harbyrau 1964. Mae swyddogaethau o dan y Ddeddf honno yn arferadwy gan Weinidogion Cymru i’r graddau y maent yn ymwneud â harbyrau pysgodfeydd, gweler yr eitem ar gyfer y Ddeddf honno yn Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999. Diwygiwyd yr eitem honno gan erthygl 4 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2000 (O.S. 2000/253) a pharagraff 1 o Atodlen 3 iddi. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

([7])   Mewnosodwyd adran 42A gan adran 315 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (p. 23), a pharagraffau 1 a 3(1) o Atodlen 21 iddi.

([8])   Caiff deddfiad arbennig ddarparu bod y Ddeddf yn gymwys fel petai’r deddfiad yn orchymyn prynu gorfodol.

([9])   O.S. 1990/497.